English

The Production Guild of Great Britain (PGGB) has announced the members of its Wales Committee, the fourth of six National and Regional Committees being established by the leading UK membership body for production professionals, in response to the continuing boom in film and High-end TV production across the UK. 

The PGGB Wales Committee is sponsored by Facilities by ADF, Entertainment Partners and Mad Dog 2020 Casting and supported by Bad Wolf/Screen Alliance Wales. It will be chaired by Cardiff-based Line Producer Edward Rastelli-Lewis, who is currently Line Producing Sexy Beast for Paramount+ and whose other recent credits include BBC drama Life After Life. As Production Manager Edward has worked on major dramas including The North Water (BBC Two), His Dark Materials (BBC One/HBO Max) and 2021 feature Morbius. Vice Chairs are Allison Dowzell (Managing Director, Screen Alliance Wales) and Line Producer Kathy Nettleship (Willow, A Discovery of Witches). Committee members are: Graham Beswick (CEO, Mad Dog 2020 Casting); Sarah Gooding (Chief Product Officer, Centtrip); and Production Accountant Mark Strainge (Sanditon, Industry).

Line Producer Edward Rastelli-Lewis says: “I’m really pleased to be chairing the Production Guild’s newly established Wales Committee. The crew, studios and facilities we have in Wales are second to none, and the calibre of international film and High-End TV titles being made here is evidence of the strength of Wales’ screen sector right now. I look forward to working with the Guild to ensure that the interests and needs of the Welsh production workforce are fully represented and advocated for in the nationwide context.”

Lyndsay Duthie, PGGB CEO, says: “We are delighted to launch our new PGGB Wales Committee. Each Nation and Region has its own exceptional and distinctive strengths and Wales is no exception, with a prolific production industry that continues to grow and thrive year on year. With our Committee network, we are ensuring that PGGB can present a better-informed voice for professionals working behind the camera all around the UK, who are busier than ever in today’s climate. Thank you to our Wales Committee members and sponsors for bringing their expertise and local knowledge to the table, to help us support the UK-wide workforce.”

Marsden Proctor, Managing Director, Facilities by ADF says: “Facilities by ADF are delighted to partner with PGGB on their Wales Committee. The area is reflective of the unprecedented boom in film and High-end TV production across the UK. As a Welsh business, we are extremely passionate about promoting and developing the creative industries in Wales. We are proud to support PGGB’s ongoing work across the Nations and Regions and very much look forward to working with the esteemed members of the committee.”

Graham Beswick, CEO, Mad Dog 2020 Casting, says: “Regardless of the numerous challenges facing the Welsh production industry, it continues to excel, and for that, we are delighted to be the supporting partners of the newly formed Wales Committee. We're excited to champion and support the interests and needs of the Welsh production industry members.' 

PGGB’s Wales Committee is the fourth PGGB National and Regional Committee to be established, following the Bristol and South West England Committee which launched in September 2021, the Northern Ireland Committee which launched in May 2022 and the North West England Committee which launched in September 2022. Locations have been chosen in line with the British Film Commission’s Stage Space Support Development hub centers. Two further Committees are set to launch in Scotland and Yorkshire in the coming months. 

Each committee will meet a minimum of four times per year and deliver a variety of activities within their area including forums, masterclasses and networking events. PGGB’s Chair and CEO will meet with the six National and Regional Committee Chairs annually as a steering group. 

Cymraeg

Mae Urdd Cynhyrchu Prydain Fawr (PGGB) wedi cyhoeddi aelodau Pwyllgor Cymru, y pedwerydd o chwe Phwyllgor Cenedlaethol a Rhanbarthol sy’n cael eu sefydlu gan gorff aelodaeth arweiniol y DU ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes cynhyrchu, i ymateb i’r twf parhaus mewn ffilm a chynyrchiadau teledu o’r safon orau ledled y DU. 

Caiff Pwyllgor PGGB Cymru ei noddi gan Facilities by ADF, Entertainment Partners a Mad Dog 2020 Casting a’i gefnogi gan Bad Wolf/Cynghrair Sgrin Cymru. Bydd yn cael ei gadeirio gan y Cynhyrchydd Llinell yng Nghaerdydd, sef Edward Rastelli-Lewis, sy’n Gynhyrchydd Llinell Sexy Beast i Paramount+ ar hyn o bryd, ac y mae ei gredydau diweddar yn cynnwys y ddrama Life After Life gan y BBC. Fel Rheolwr Cynhyrchu, mae Edward wedi gweithio ar ddramâu o bwys, yn cynnwys The North Water (BBC Two), His Dark Materials (BBC One/HBO Max) a’r ffilm nodwedd Morbius yn 2021. Yr Is-Gadeiryddion yw Allison Dowzell (Rheolwr Gyfarwyddwr, Cynghrair Sgrin Cymru) a’r Cynhyrchydd Llinell Kathy Nettleship (Willow, A Discovery of Witches). Aelodau’r Pwyllgor yw: Graham Beswick (Prif Swyddog Gweithredol, Mad Dog 2020 Casting); Sarah Gooding (Prif Swyddog Cynnyrch, Centtrip); a’r Cyfrifydd Cynyrchiadau Mark Strainge (Sanditon, Industry).

Dywed y Cynhyrchydd Llinell Edward Rastelli-Lewis: “Rwy’n falch iawn o gadeirio Pwyllgor Cymru, a sefydlwyd yn ddiweddar gan yr Urdd Cynhyrchu. Mae’r criw, y stiwdios a’r cyfleusterau sydd gennym ni yng Nghymru heb eu hail, ac mae safon y ffilmiau rhyngwladol a’r cynyrchiadau teledu o’r safon orau sy’n cael eu gwneud yma yn dystiolaeth o gryfder sector sgrin Cymru ar hyn o bryd. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Urdd i sicrhau cynrychiolaeth lawn o fuddiannau ac anghenion gweithlu cynhyrchu Cymru, ac eiriolaeth lawn drostyn nhw, ledled y wlad.”

Dywed Lyndsay Duthie, Prif Swyddog Gweithredol PGGB: “Mae’n bleser gennym ni lansio ein Pwyllgor PGGB newydd ar gyfer Cymru. Mae gan bob gwlad a rhanbarth ei chryfderau eithriadol ac unigryw ei hun, a dydy Cymru ddim yn eithriad. Mae ganddi ddiwydiant cynhyrchu toreithiog sy’n parhau i dyfu a ffynnu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Gyda’n rhwydwaith Pwyllgorau, rydyn ni’n sicrhau bod PGGB yn gallu cyflwyno llais wedi’i lywio’n well ar gyfer pobl broffesiynol sy’n gweithio’r tu ôl i’r camera ym mhob cwr o’r DU, sy’n brysurach nag erioed yn yr hinsawdd bresennol. Diolch i’n haelodau o Bwyllgor Cymru a’n noddwyr am rannu eu harbenigedd a’u gwybodaeth leol, i’n helpu i gefnogi’r gweithlu ledled y DU.”

Dywed Marsden Proctor, Rheolwr Gyfarwyddwr, Facilities by ADF: “Mae’n bleser gan Facilities by ADF bartneru â PGGB ar eu Pwyllgor Cymru. Mae’r maes yn adlewyrchu’r twf digynsail mewn ffilm a chynyrchiadau teledu o’r safon orau ledled y DU. Fel busnes Cymreig, rydyn ni’n eithriadol o frwd ynglŷn â hyrwyddo a datblygu’r diwydiannau creadigol yng Nghymru. Rydyn ni’n falch o gefnogi gwaith parhaus PGGB ledled y gwledydd a’r rhanbarthau ac yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag aelodau’r pwyllgor, sy’n bobl uchel eu parch.”

Dywed Graham Beswick, Prif Swyddog Gweithredol, Mad Dog 2020 Casting: “Er gwaethaf yr heriau niferus sy’n wynebu’r diwydiant cynhyrchu yng Nghymru, mae’n parhau i ragori, ac o’r herwydd, rydyn ni’n falch iawn o fod yn bartneriaid cefnogol Pwyllgor Cymru, a gafodd ei ffurfio’n ddiweddar. Rydyn ni’n gyffrous i hyrwyddo a chefnogi buddiannau ac anghenion aelodau o’r diwydiant cynhyrchu yng Nghymru.' 

Pwyllgor Cymru PGGB yw pedwerydd Pwyllgor Cenedlaethol a Rhanbarthol PGGB i gael ei sefydlu, yn dilyn Pwyllgor Bryste a De-orllewin Lloegr, a lansiwyd ym mis Medi 2021, Pwyllgor Gogledd Iwerddon, a lansiwyd ym mis Mai 2022 a Phwyllgor Gogledd-orllewin Lloegr, a lansiwyd ym mis Medi 2022. Mae lleoliadau wedi cael eu dewis yn unol â chanolfannau hyb Datblygu Cymorth â Gofod Llwyfan Comisiwn Ffilm Prydain. Bydd dau Bwyllgor arall yn cael eu lansio yn Yr Alban a Swydd Efrog yn y misoedd nesaf. 

Bydd pob pwyllgor yn cyfarfod o leiaf bedair gwaith y flwyddyn ac yn cyflwyno amrywiaeth o weithgareddau yn eu hardal, yn cynnwys fforymau, dosbarthiadau meistr a digwyddiadau rhwydweithio. Bydd Cadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol PGGB yn cyfarfod â chwe Chadeirydd y Pwyllgorau Cenedlaethol a Rhanbarthol bob blwyddyn fel grŵp llywio.